2012 Rhif 3143 (Cy. 315 )

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)).

Mae erthygl 2(2) yn gwneud darpariaeth i wahardd person rhag glanio tatws penodol yng Nghymru oni bai bod  hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw wedi cael ei roi i arolygydd awdurdodedig.

Mae erthygl 2(3) yn gwneud darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i datws penodol sy'n dod o Wlad Pwyl ac sy'n cael eu mewnforio i mewn i Gymru gael tystysgrif swyddogol gyda hwy sy'n cadarnhau y canfuwyd bod y tatws yn rhydd oddi wrth  Clavibacter michiganensis ssp sepedonicus (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al.mewn arbrofion swyddogol labordy.

Mae asesiad  effaith rheoleiddiol rhagarweiniol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael gan  Lywodraeth Cymru, Tîm yr Amgylchedd Naturiol ac Amaethyddiaeth, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UR.


2012 Rhif 3143 (Cy. 315 )

iechyd planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed                               19 Rhagfyr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Rhagfyr 2012

Yn dod i rym                         11 Ionawr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(1) a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2012. Daw i rym ar 11 Ionawr 2013 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006

2.(1)Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff (3) o erthygl 19 (gwaharddiadau rhag glanio plâu planhigion a deunyddiau perthnasol) rhodder—

(3) Paragraph (4) applies to—

(a)   seed potatoes grown or suspected to have been grown in another member State or in Switzerland; and

(b)  potatoes, other than seed potatoes, grown or suspected to have been grown in Poland, Portugal, Romania or Spain.

(4) Subject to article 22, no person is to land in Wales any such potatoes unless written notification is provided to an inspector, at least two days prior to the intended date of introduction into Wales of the potatoes, of the intention to land the potatoes and of the matters contained in paragraph (5).

(5) The matters are—

(a)   the intended time, date and means of introduction of the potatoes;

(b)  their intended point of entry into Wales;

(c)   their intended use and destination;

(d)  their variety and quantity; and

(e)   the producer’s identification number.”.

(3) Yn Rhan B (deunydd perthnasol, o unrhyw ran  arall o'r Undeb Ewropeaidd, y caniateir iddo gael ei lanio neu ei symud o fewn Cymru os yw gofynion arbennig wedi eu bodloni) o Atodlen 4—

(a)     yn y drydedd golofn o eitem 15 o'r tabl, yn lle “item 16” rhodder “items 16 and 19a”;

(b)     yn y drydedd golofn o eitem 19 o'r tabl, yn lle “There must be evidence” rhodder “Without prejudice to item 19a, there must be evidence”; ac

(c)     ar ôl eitem 19 o'r tabl, mewnosoder—


 

19a

Tubers of Solanum tuberosum L., other than those mentioned in column 2 of items 16 to 18, which originate in Poland

Without prejudice to item 19, the tubers must be accompanied by a certificate issued by the responsible official body of Poland confirming that they have been found to be free from Clavibacter michiganensis ssp sepedonicus (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al. in official laboratory tests”.

 

 

John Griffiths

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru 

 

19 Rhagfyr 2012



([1])           1967 p. 8.  Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 8. Mae'r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3 yn cael eu rhoi i “competent authority”. Yr awdurdod cymwys a ddiffinnir yn adran 1(2), o ran amddiffyn coed a phrennau coedwigaeth rhag ymosodiad gan blâu yw'r Comisiynwyr Coedwigaeth ac fel arall, a bellach o ran Cymru, Gweinidogion Cymru.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967,  i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) 1978 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1978/272). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).  Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.  32).

([3])           O.S. 2006/1643 (Cy.158), fel y’i diwygiwyd gan O.S.2007/2716 (Cy.229), O.S. 2007/3305 (Cy.292), O.S. 2008/2781 (Cy.248), O.S. 2008/2913 (Cy.257), O.S. 2009/1376 (Cy.137), O.S. 2010/1795 (Cy.171) ac O.S. 2010/2976 (Cy2470.247).